celt modd i fyw şarkı sözleri

Wel dwi hanner ffordd i uffern A hanner ffordd i'r nef Efo un droed ar y sbardun A un droed yn y bedd Ma' pob dydd sy'n llusgo heibio Yn g'neud o wysg ei din A pob eiliad bron yn teimlo'n rong Heb gwmni potel win Drwy'r amheuon a'r dadleuon Y brad o gair fy nyw Drwy'r gwynt a'r glaw a phopeth ddaw Drwy hyn oll - dwi'n cael modd i fyw Dwi'n chwifio fflag cyfiawnder O'r seilam ar y bryn A crio mewn i'n pinot noir Wrth gwyno bod hi'n grim Yn mynnu cydraddoldeb Taflu'n sbwriel dros y clawdd A phwyntio bys o flaen y llys Tra'n deud fod byw yn hawdd Drwy'r amheuon a'r dadleuon Y brad o gair fy nyw Drwy'r gwynt a'r glaw a phopeth ddaw Drwy hyn oll - dwi'n cael modd i fyw Dwi'n creu ddim byd ond trafferth Dwi'n creu ddim byd ond poen Dwi dda i'm byd - ond ar hyn o bryd Dwi'n hapus yn fy nghroen Drwy'r amheuon a'r dadleuon Y brad o gair fy nyw Drwy'r gwynt a'r glaw a phopeth ddaw Drwy hyn oll - dwi'n cael modd i fyw
Sanatçı: Celt
Türü: Belirtilmemiş
Ajans/Yapımcı: Belirtilmemiş
Şarkı Süresi: 3:50
Toplam: kayıtlı şarkı sözü
Celt hakkında bilgi girilmemiş.

Fotoğrafı