cerys matthews myfanwy [from album "tir"] şarkı sözleri
Paham mae dicter, O Myfanwy
Yn llenwi′th lygaid duon di?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy
Heb wrido wrth fy ngweled i?
Pa le mae′r wên oedd ar dy wefus
Fu'n cynnau cariad ffyddlon ffôl?
Pa le mae sain dy eiriau melys
Fu′n denu′n nghalon ar dy ôl?
Pa beth a wneuthum, O Myfanwy
I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
Ai chwarae oeddit, O Myfanwy
 thanau euraidd serch dy fardd?
Wyt eiddo im drwy gywir amod
Ai gormod cadw'th air i mi?
Ni cheisiaf fyth mo′th law, Myfanwy
Heb gael dy galon gyda hi
Myfanwy boed i oll dy fywyd
Fod dan seren ddisglair canol dydd
A boed i rosyn gwridog iechyd
I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd
Anghofia′r oll o'th addewidion
A roist i minnau, eneth gel
A dyro'th law, Myfanwy dirion
I ddim ond dweud y gair "Ffarwél"