here be dragons jail caerdydd şarkı sözleri
Ffarwel i'r plant a'r cwrw
Ffarwel i smocio'r bib
'Rwyf finnne'n gorfod myned
Yn awr i jail Caerdydd
A'r plisman oedd yn gweiddi “To the wheel to the wheel”
A'r plisman oedd yn gweiddi “To the wheel”
A minne'n gorfod myned
Mewn llai nag ugen muned
I orwedd ar fy nghefen
Yn y jail yng Nghaerdydd
Mi gefes swper hyfryd yn y jail yng Nghaerdydd
Mi gefes swper hyfryd yng Nghaerdydd
Hen grwstyn wedi sychu
A hwnnw heb ei wylychu
Am 'mod i wedi pechu
Yn y jail yng Nghaerdydd Yn y jail yng Nghaerdydd, yn y jail yng Nghaerdydd, Lladronach a lladron, Llofruddion a fi Yn y jail yng Nghaerdydd, yn y jail yng nghaerdydd Af i ddim yn nôl i'r jail yng nghaerdydd
Mi gefes wely caled yn y jail yng Nghaerdydd
Mi gefes wely caled yng Nghaerdydd
Dou blancyn mowr o dderi
A'r rheini'n llawn colfenni
(Ne)s bod cleisie ar 'yn ais i
Yn y jail yng Nghaerdydd Yn y jail yng Nghaerdydd, yn y jail yng Nghaerdydd, Lladronach a lladron, Llofruddion a fi Yn y jail yng Nghaerdydd, yn y jail yng nghaerdydd Af i ddim yn nôl i'r jail yng nghaerdydd
Chwi fechgyn bach o GymruDowch ymlaen! Dowch ymlaen!
Chwi fechgyn bach o Gymru dowch ymlaen!
A pheidiwch gwario'ch arian
I dalu'r hen bolisman
Fu 'mhoeni i ar fy nghefan