iwtopia diflannu şarkı sözleri

So, ti'n chwarae gemau gyda fi A ti'n meddwl bod fi'n ffrind? Oeddet ti am aros yma Pam oeddet ti'n gorfod mynd? Achos nawr ni'n drifftio ffordd gwahanol I beth yr oeddwn ni Cariad ti oedd yr unig peth Oedd yn bwysig i mi So, ti'n cwrdd â phobl newydd nawr Ti'n symud ymlaen mor gloi A fi dal ddim medru deall Yn lle wnaeth ein stori troi? A ti'n chwarae'r fictim i mi nawr Fel petai ro't ti gorfod ffoi Ti'n gwneud i mi gwestiynu Os oedd hyn i gyd yn sioe So, ti'n chwarae triciau arna i Ti'n meddwl mai gem yw hyn? Gem rhy hir o chwarae cuddio Neu gem o tag dros y bryn Paid gwastraffu fy amser Os na wneu di hanner O'r ymdrech sydd angen ti wneud Os mae dyma'r sefyllfa Cer a fi'r allanfa Un gair a fydd gennyf i ddweud Mewn munud ti'n diflannu eto Rhedeg bant Dod 'nôl heb fecso Chwarae gyda fy nheimladau i Ac yna dweud "Dwi ddim eisiau bod gyda ti" Mae'n chwarter i un yn y bore A ti dal heb penderfynu Beth yw dy opsiwn gorau Dyw cariad ddim yn gweithio fel hyn A ti'n gwybod beth ti'n neud, Paid ag edrych mor syn! Mewn munud ti'n diflannu eto Rhedeg bant Dod 'nôl heb fecso Chwarae gyda fy nheimladau i Ac yna dweud "Dwi ddim eisiau bod gyda ti" Mae'n chwarter i un yn y bore A ti dal heb penderfynu Beth yw dy opsiwn gorau Dyw cariad ddim yn gweithio fel hyn A ti'n gwybod beth ti'n neud, Paid ag edrych mor syn! Mewn munud ti'n diflannu eto (Ti'n diflannu) (Ti'n diflannu ie) Mewn munud ti'n diflannu eto "Dwi ddim eisiau bod gyda ti" Mae'n chwarter i un yn y bore A ti dal heb penderfynu Beth yw dy opsiwn gorau Dyw cariad ddim yn gweithio fel hyn A ti'n gwybod beth ti'n neud, Paid ag edrych mor syn! Mewn munud ti'n diflannu eto Rhedeg bant Dod 'nôl heb fecso
Sanatçı: Iwtopia
Türü: Belirtilmemiş
Ajans/Yapımcı: Belirtilmemiş
Şarkı Süresi: 3:15
Toplam: kayıtlı şarkı sözü
Iwtopia hakkında bilgi girilmemiş.

Fotoğrafı