jacob elwy pan fyddai'n 80 oed şarkı sözleri
Pan fyddai’n 80 oed
Dwisio edrych nol a gwenu
Ar y pethe ffôl a wnes i
Pan oeddwn i yn iau
Pan fyddai'n 80 oed
Dwi'm isio'i boenau'n llethu
Yn difaru am y pethe nes i ddim
Pan oeddwn i yn gallu
A phan fyddai'n 80 oed
Dwisio gafael ynot ti
Gan wybod fod ein cariad
Wedi gorchfygu popeth fu
Ond paid dal yn ôl
Sgen ti ddim byd i'w golli
Mae bywyd rhy fyr i droi
Yn dy unfan o hyd
A phan fyddai'n 80 oed
Yn ddiolchgar am gael teulu
Am fod yna wastad i mi - o hyd
Ac am fod yn graig mor gry'
Paid dal yn ôl
Sgen ti ddim byd i'w golli
Cofia mai ti dy hun
Sy'n dy rwystro rhag gwneud
A paid a deud - fydd wastad ‘yfory'
Cwyd a cer amdani
Cyn iddi fynd rhy hwyr
Cwyd a cer amdani
Cyn y byddi’n 80 oed

